Amos 5

Galw pobl i newid eu ffyrdd

1Gwrandwch arna i'n galaru! Dw i'n canu cân angladdol er cof amdanat ti, wlad Israel:

2“Mae Israel fel merch ifanc
wedi ei tharo i lawr,
mae hi'n gorwedd ar bridd ei gwlad
a does neb i'w chodi ar ei thraed.”

3Achos dyma mae fy Meistr, yr Arglwydd, yn ei ddweud am wlad Israel:

“Dim ond cant fydd ar ôl yn y dre
anfonodd fil allan i'r fyddin,
a dim ond deg fydd ar ôl yn y dre
anfonodd gant i'r fyddin.”

4Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud wrthot ti, wlad Israel:

“Tro yn ôl ata i, a chei fyw!
5Paid troi i gyfeiriad y cysegr yn Bethel,
mynd i ymweld â chysegr Gilgal
na chroesi'r ffin a mynd i lawr i Beersheba.
Bydd pobl Gilgal yn cael eu caethgludo,
a fydd Bethel ddim mwy na rhith!”
6Tro yn ôl at yr Arglwydd, a chei fyw!
Os na wnei di bydd e'n rhuthro drwy wlad Joseff fel tân
ac yn llosgi Bethel yn ulw;
a fydd neb yn gallu diffodd y tân.
7Druan ohonoch chi, sy'n troi cyfiawnder yn beth chwerw,
ac yn gwrthod gwneud beth sy'n iawn yn y tir!
8Duw ydy'r un wnaeth y sêr a
Pleiades ac Orïon.
Fe sy'n troi'r tywyllwch yn fore,
ac yn troi'r dydd yn nos dywyll.
Mae e'n cymryd dŵr o'r môr
ac yn ei arllwys yn gawodydd ar y tir
—yr Arglwydd ydy ei enw e!
9Mae'n bwrw dinistr ar y mannau mwyaf diogel,
nes bod caerau amddiffynnol yn troi'n adfeilion!

10Dych chi'n casáu'r un sy'n herio anghyfiawnder yn y llys;

ac yn ffieiddio unrhyw un sy'n dweud y gwir.
11Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwm
a dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw:
Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd,
gewch chi ddim byw ynddyn nhw.
Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd,
gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.
12Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml,
ac wedi pechu'n ddiddiwedd
drwy gam-drin pobl onest,
a derbyn breib i wrthod cyfiawnder
i bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!
13Byddai unrhyw un call yn cadw'n dawel,
achos mae'n amser drwg.
14Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg,
a chewch fyw!
Wedyn bydd yr Arglwydd, y Duw holl-bwerus,
gyda chi go iawn
(fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!)

15Casewch ddrwg a charu'r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr Arglwydd, y Duw holl-bwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff.

16Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi'n eu gwneud, dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud – fy Meistr i, y Duw holl-bwerus:

“Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr,
a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’
Bydd y rhai tlawd sy'n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru,
a bydd y galarwyr proffesiynol yno yn nadu'n uchel.
17Bydd pobl yn wylo'n uchel,
hyd yn oed yn y gwinllannoedd,
achos dw i'n dod i'ch cosbi chi.”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
18Druan ohonoch chi! Chi sy'n edrych ymlaen
at y diwrnod pan fydd yr Arglwydd yn dod!
Sut allwch chi edrych ymlaen at y diwrnod hwnnw?
Diwrnod tywyll fydd e, heb ddim golau o gwbl!
19Bydd fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lew
ac yn sydyn mae arth yn dod i'w gyfarfod.
Mae'n llwyddo i gyrraedd y tŷ'n ddiogel,
ond yna'n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr!
20Felly bydd hi ar y diwrnod pan fydd yr Arglwydd yn dod –
diwrnod tywyll fydd e, dim un golau!
Ie, tywyllwch dudew heb lygedyn o olau!
21“Dw i'n casáu eich gwyliau crefyddol chi,
ac yn eu diystyru nhw.
Dydy'ch addoliad chi'n rhoi dim pleser i mi. b
22Er i chi ddod i gyflwyno aberthau i'w llosgi i mi,
ac offrymau bwyd, wna i ddim eu derbyn nhw.
Gallwch ddod ac offrymu eich anifeiliaid gorau i mi,
ond fydda i'n cymryd dim sylw o gwbl!
23Plîs stopiwch ddod yma i forio canu eich emynau,
does gen i ddim eisiau clywed sŵn eich offerynnau cerdd chi.
24Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo,
a thegwch fel ffrwd gref sydd byth yn sychu.

25“Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, bobl Israel?

26“A nawr mae'n well gynnoch chi gario eich ‛brenin‛ Saccwth, a'ch delw o Caiwan – sef duwiau'r sêr dych chi wedi eu llunio i chi'ch hunain! 27Felly, bydda i'n eich gyrru chi'n gaethion i wlad sydd tu draw i Damascus.”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn, sef yr un sy'n cael ei alw y Duw holl-bwerus.
Copyright information for CYM